Mentora

  • Yn gosod amcanion i ti dy hun, ond byth yn cyrraedd dy nod?

  • Yn gweld bywyd gwaith yn amharu ar fywyd adra?

  • Yn poeni nad wyt ti’n edrych ar ôl dy hun yn iawn, ond yn teimlo yn euog pan fyddi di’n gwneud dy hun yn flaenoriaeth?

  • Yn teimlo dy fod wedi colli dy hunan hyder ar hyd y ffordd, ac eisiau’r chdi hapus a hyderus na yn ôl eto?

Does dim angen i bethau fod fel hyn. Rwan ydi’r amser i newid!

Wyt ti…

Mentora efo fi 

Wel yn syml, dwi’n helpu merched gyrraedd eu nod. Ella dy fod yn ystyried newid gyrfa, eisiau gwella dy hunan hyder, dy ffitrwydd neu dy lesiant. Dwi yma i helpu!

Fel Mentor 1:1 dwi’n gweithio efo CHDI fel unigolyn, i dy helpu di i gyrraedd lle bynnag wyt ti eisiau bod. Dwi’n defnyddio fy mhrofiad fel rheolwr ac arweinydd pobl profiadol i dy dywys, dy arwain, dy annog a dy gefnogi - yn ofalus, mewn partneriaeth efo chdi - a chyn bo hir byddwn ni’n dathlu dy lwyddiannau efo’n gilydd!

Ella nad wyt ti rioed wedi clywed am Mentor, ella dy fod yn meddwl tybed gall Mentor dy helpu di, neu ella dy fod ti yma er mwyn gwybod mwy.

Beth bynnag yw dy reswm am fod yma, darllen ymlaen ac mi wna i ateb dy gwestiynau di!