Mentora Maeth

Wyt ti’n chwilio am fywyd iachach? Eisiau bod yn ddylanwad da i dy blant? Eisiau gwella dy faeth er mwyn gwella dy ffitrwydd, dy berfformiad corfforol neu er mwyn colli pwysau?

Ella dy fod wedi colli pwysau yn llwyddianus yn y gorffennol, ond wedi rhoi’r pwysau yn ôl (a mwy!) yn sgil hynny?

Ella bod gen ti lond cwpwrdd o ddillad nad ydynt yn ffitio bellach, ac yn flin efo chdi dy hun am beidio blaenoriaethu dy faeth.

Fel rhywun sydd yn jyglo yr un pethau fy hun ers blynyddoedd, ac yn y gorffennol wedi trio Weight Watchers, Slimming World, shakes a phob math o bethau eraill, dwi’n dallt!

Fel mentor maeth fedra i dy helpu di i ddod allan o’r patrwm yo-yo na, a ffeindio ffordd o fwyta sydd yn iach, yn gynaladwy, ac yn ffitio rownd dy fywyd prysur di. Hoffi siocled, pizza neu takeaway ar y penwythnos? Dim problem - efo fi, wnei di ddysgu nad oes unrhyw fwydydd “drwg”, bod hi’n OK byta ambell i gacen a bod posib mwynhau bwyd heb deimlo yn euog.

Eisiau rhyddid? Eisiau camu oddi ar y yo-yo? Cysyllta efo fi i gychwyn ar dy daith at y chdi iachach, hyderus, bodlon a HAPUS newydd

S x

"Diolch i gymorth a chyngor Siân, dw i’n coelio yn fi fy hun a fy ngallu llawer mwy, a dw i mor motivated i barhau ar y siwrne a gweld beth arall sydd i ddod.”