Amdanaf Fi

Mentor profiadol sydd yn grymuso merched Cymru i gyrraedd eu nod.

Mae Siân yn fam prysur efo gyrfa prysur hefyd, ac yn gallu uniaethu yn gryf efo pob dynes arall sydd yn ceisio llewyrchu yn eu gyrfa a magu teulu hapus ac iach ar yr un pryd! Mae hi wrth ei bodd yn gweithio efo merched eraill, a’u helpu i ddod a gwell cydbwysedd i’w bywyd, eu helpu i ffeindio ffyrdd o wneud bywyd yn haws, ac o wneud hynny mewn ffordd gynaladwy.

Yn ystod y cyfnod clo, cymhwysodd Siân fel Mentor Maeth, gan gyfuno ei sgiliau arwain a mentora â’i hangerdd am ymarfer corff, maeth a byw’n iach. Ers Ionawr 2022 mae Siân wedi dod a mentora maeth yn rhan anatod o Fentora efo Siân, gan gydnabod mor bwysig ydi hi i ferched prysur flaenoriaethu eu hunain a’u iechyd, ac i wneud hynny mewn ffordd sydd yn ffitio mewn o gwmpas gwaith, teulu a bywyd.

Gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn Uwch Arweinyddiaeth, mae Siân yn arweinydd pobl profiadol, yn enwedig o fewn y sector gyhoeddus. Mae ysbrydoli, hyfforddi a mentora ei thîm i ffynnu wedi arwain at ganlyniadau gwych iddynt yn broffesiynol ac yn bersonol. Y boddhad dwfn a’r llawenydd o weld llwyddiant eraill a daniodd angerdd Siân i rannu ei sgiliau mentora a’i phrofiad helaeth ymhellach, a sefydlu Mentora efo Siân.


Trwy allu cynnig cyfuniad o fentora llesiant, gyrfa a maeth, mae Mentora efo Siân yn gallu lleihau straen, gwella hunan hyder, hunan ddelwedd a lefelau egni hefyd.

Ethos blaenllaw, a’r ffordd mae Siân yn gweithio, yw un o rymuso – grymuso merched prysur i osod ffiniau iach, herio eu hunain a gwneud penderfyniadau sydd yn glynu eu gwerthoedd personol nhw eu hunain. Trwy weithio fel hyn, mae dewisiadau a phenderfyniadau yn dod yn haws, a chleientiaid yn sylweddoli yn fuan bod newidiadau bychain a chynaladwy yn gallu gwneud gwahaniaethau enfawr a hir dymor. 

Does dim byd gwell gan Siân na gweld y gwahaniaeth mae’r merched mae hi’n mentora yn gwneud i’w bywydau: boed yn rhywbeth anferth fel swydd newydd neu yrfa, neu bethau sylfaenol fel dysgu sut i osod ffiniau a dweud “Na” yn amlach er mwyn treulio mwy o amser efo’r plant, mae gweithio efo Siân yn trawsnewid bywydau ferched Cymru. Ai chdi fydd y nesa?

Mae Siân yn byw yn Y Felinheli gyda'i gwr a’u dau o blant. Fel teulu maent yn treulio cymaint o’u amser sbar a phosib yn mwynhau cefn gwlad anhygoel Cymru, yn y mynyddoedd, ar y traethau ac yn y dwr, ac yn chwilio am gyfleon am anturiaethau ar hyd y ffordd!

Os oes gen ti amcanion, neu uchelgais, ond ddim yn siwr sut i fynd o’i chwmpas hi, bydd Siân yn gallu dy roi di ar ben ffordd!

Eisiau gwell cydbwysedd mewn bywyd? Eisiau mwy o amser efo’r plant? Eisiau llai o stress? Eisiau gwella dy faeth, cwsg, ffitrwydd a hunan hyder? Ydy, mae Siân yn gallu helpu!

Mae Siân yn fam prysur sydd yn jyglo yn ddyddiol, yn union fel chdi! Felly os wyt ti eisiau Mentor sy’n siarad yr un iaith (mewn sawl ffordd!) ac yn dallt, cysyllta efo Siân am sgwrs.