Eisiau gwybod beth i ddisgwyl o Fentora efo Siân? Dyma sut mae eraill wedi elwa.

Dwi wrth fy modd yn eu gweld yn llwyddo, ac o fod wrth eu ochrau ar hyd y daith. Ai dy hanes di fydd yma tro nesa?

Straeon Llwyddiant

"Dwi wedi elwa yn syth o fentora - mae'n braf cael rhywun arall i fy helpu ac i roi awgrymiadau ond hefyd i fy nghadw yn ‘accountable’.”

"Trwy fentora dwi'n gallu gwneud camau bach i newid petha a mae'r camau bach ma i gyd yn adio i fyny i wneud newid mawr. Go for it! “

"Dw i wedi elwa gymaint yn y cyfnod o weithio efo chdi, oherwydd dw i wedi dysgu gymaint nad oeddwn yn gwybod o’r blaen, ac wedi gallu dechrau trawsnewid fy mywyd mewn ffyrdd realistig sydd wirioneddol yn gweithio.”

"I unrhyw un sy’n ystyried mentora efo Siân, oll fyswn i’n dweud yw ‘cer amdani!’ Mae’n gam enfawr ac mor ddychrynllyd i gychwyn ar siwrne fel hyn, ond fyswn i heb allu cael mentor gwell.”

"Diolch Siân, dwi ar fy ngorau mewn cymaint mwy o ffyrdd ers gweithio efo chdi! "

"Mae Siân yn fy nghadw’n atebol, yn rhoi’r motivation i mi ac yn dysgu gymaint y gallaf ddefnyddio trwy gydol fy mywyd.”

"Dim beirniadaeth, dim ond anogaeth.”

"Mae hi wirioneddol eisiau’r gorau i mi, ac mae hi wedi codi fy hyder a lefelau ffitrwydd, ac dw i’n gweld canlyniadau dydw i erioed wedi o’r blaen. Heb amheuaeth, wnei di ddim difaru cymryd y cam yma!”

"Diolch i gymorth a chyngor Siân, dw i’n coelio yn fi fy hun a fy ngallu llawer mwy, a dw i mor motivated i barhau ar y siwrne a gweld beth arall sydd i ddod.”

"Fe wnes i elwa’n arw o’r cyfnod y bues i’n cael fy mentora gan Siân, mewn sawl ffordd a dweud y gwir!”