Mentora Llesiant

Wyt ti’n cofio blaenoriaethu dy lesiant dy hun? Faint o amser go iawn wyt ti’n rhoi bob wythnos i fod yn dawel, i chwerthin, i gysgu, i roir maeth iawn i dy gorff ac i flaenoriaethu dy iechyd a lles dy hun?

Fel mam prysur efo swydd cyfrifol, mae’n hawdd colli gafael arnat ti dy hun yng nghanol y swn. Rwyt ti’n rhuthro o un lle i’r llall yn edrych ar ôl dy deulu, yn llwyddo yn dy yrfa ac yn trio plesio pawb.

Dwi yma i helpu chdi i ffeindio’r cydbwysedd na eto. I ddweud wrthat ti ei fod yn OK gofyn am help, ei fod yn OK deud na, ei fod yn OK cymryd amser allan o’r dydd i edrych ar ôl dy hun, a’i fod yn hynod bwysig dy fod yn gwneud hynny!

Try weithio efo fi, byddi di’n dysgu trefnu dy amser yn well, dysgu blaenoriaethu a chanolbwyntio ar y pethau sydd wir yn bwysig i ti, a dysgu nad ydi hunanofal yn hunanol - yn hytrach, mae hunanofal yn hynod bwysig!

Trwy weithio ego fi byddi di’n gwella dy fatet, ffitrwydd, lefelau egni, neu beth bynnag arall hoffet ti help efo fo - a gyda’n gilydd wnawn ni greu y chdi newydd, sydd yn hyderus, bodlon, iach ac effeithlon - ac yn fwy na hyn i gyd, yn HAPUS!

Cysyllta efo fi am sgwrs anffurfiol x

"Mae mentora wedi fy newid oherwydd mae wedi codi fy lefelau ffitrwydd, yn ogystal â chynyddu fy hyder gymaint."