Mentora Gyrfa
Fel uwch reolwr efo dros 25 mlynedd o ddatblygu pobl o fewn y gweithle, mae gen i ddiddordeb mawr mewn helpu merched i gyflawni eu potensial yn eu gwaith, a phrofiad helaeth o wneud hynny!
Ella dy fod yn dyheu am swydd newydd, ond ddim y yn teimlo’n hyderus i fynd amdani.
Ella dy fod eisiau bod yn wych yn y swydd rwyt ti ynddi rwan, ac eisiau help i wneud hynny.
Beth bynnag ydi dy nod, dwi yma i helpu trwy fentora yn ofalus ac yn broffesiynol i dy helpu di i lwyddo.
Mae gen i brofiad helaeth o recriwtio hefyd, felly os wyt ti eisiau help o ran llenwi ffurflen gais neu paratoi am gyfweliad, rho alwad a dwi yma i helpu!
Felly os wyt ti am gamu mlaen, cyrraedd dy botensial a bod y person llawn hyder na wyt ti’n ysu am gael bod, cysyllta am sgwrs.
Trwy weithio efo fi wnei di ddatblygu dy hyder, datblygu dy sgiliau yn dy waith a chyn hir bydde di’n llwyddo mewn ffyrdd doeddat ti rioed wedi dychmygu oedd yn bosib!
Cysyllta i drefnu sgwrs a chychwyn ar y daith efo fi
S x