Mentora proffesiynol, cyfeillgar i ferched.    

Beth bynnag dy nôd, dwi yma i dy helpu i gyflawni mwy nag oeddat ti ‘rioed wedi dychmygu.    

Mentora efo Siân

Rydw i’n fentor proffesiynol, efo dros 25 mlynedd o brofiad o helpu pobl ffeindio eu ffordd trwy heriau eu bywydau a’u gyrfa. Dwi’n gweithio fel uwch reolwr yn y sector gyhoeddus ac wrth fy modd yn helpu pobl i ddatblygu eu hunain a’u sgiliau. Dwi hefyd yn fentor maeth cymwysedig, ac os ydi gwella dy faeth yn flaenoriaeth i ti, dwi yma i helpu! Dwi wrth fy modd yn helpu merched dod o hyd i gydbwysedd mewn bywyd, i flaenoriaethu ei hunain a chyraedd eu nod, beth bynnag yw

"Dwi ‘rioed di cael cymaint o gefnogaeth i allu anelu am be dwi isio."

Mentora Llesiant

Yma dwi’n gallu dy helpu di i ddod o hyd i chdi dy hun. Byddwn yn datblygu cydbwysedd mewn bywyd, yn rhoi cyfle i ti flaenoriaethu dy hun, gwella dy hunan hyder a byw bywyd hapus a iach.

   Mentora Gyrfa    

Fel mentor profiadol o fewn y gweithle, dwi’n arbenigwr ar ddatblygu gyrfa. Ella dy fod eisiau swydd newydd neu eisiau datblygu dy hun yn dy swydd bresenol. Drwy weithio efo fi, byddi di’n llewyrchu yn dy yrfa!

   Mentora Maeth    

Mae gen i ddiddordeb mewn maeth ac iechyd, ac fel mentor maeth cymwysiedig dwi’n gallu dy helpu di i golli pwysau, gwella dy iechyd a ffitrwydd drwy maeth da.

Da ni ferched yn blydi brilliant dydan?

 Da ni'n famau, yn gweithio yn galed, yn helpu eraill, yn gwirfoddoli, yn gwybod yn union pwy yn y ty sydd yn gwneud be bob dydd, a da ni "on it" yn gyson, fel rhyw elyrch osgeiddig yn nofio dros y dwr.

Ond waw mae hyn yn gallu bod yn flinedig! Da ni'n cario trefniadau pawb yn y ty ar ein sgwyddau, ac yn trio meddwl am gant a mil o bethau ar yr un pryd.

Wyt ti'n teimlo dy fod ti ar rhyw fath o treadmill dyddiol, ac wedi bod arno fo ers blynyddoedd rwan?

Fel mam prysur rwyt ti'n trio rhoi magwraeth arbennig i dy blant, yn rhuthro o un lle i'r llall i roi'r cyfleon gorau iddyn nhw mewn bywyd. Ella bod dy rieni di yn heneiddio hefyd, ac rwyt ti'n trio bod yno i'w helpu cymaint a phosib.

Dwi'n gwybod yn union sut wyt ti'n teimlo!

“Dw i wedi elwa gymaint yn y cyfnod o weithio gyda Siân, ac wedi dechrau trawsnewid fy mywyd mewn ffyrdd realistig sydd wirioneddol yn gweithio.”